top of page
Bardsey.jpg
Bird Logo White-01.png
Cardigan-©-Illustration-1.jpg

Beth yw Ecoamgueddfa?

 

Nid adeilad yw #ecoamgueddfa ond ‘amgueddfa’ sy'n canolbwyntio ar hunaniaeth llefydd. Mae pobl leol yn ganolog i’r fenter a’r nod yw tyfu’r economi wrth wella lles a datblygiad cymunedau lleol yn hytrach na chanolbwytio ar dwf economaidd di-reolaeth a di-enaid. 

Mae ecoamgueddfa yn syniad newydd sy’n dibynu ar ddehongli a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol yn hytrach na cyflwyno casgliad o hen greiriau fel welwch chi mewn amgueddfeydd confensiynol.

 

O Ffrainc ddaeth y syniad o ecoamgueddfa yn wreiddiol, a hynny yn 70au’r ganrif ddiwethaf. Ar hyn o bryd mae dros 300 o ecoamgueddfeydd i’w cael ar hyd a lled y byd a’r mwyafrif o’r rheini yng ngwledydd Ewrop. ‘Does dim llawlyfr ar gyfer creu Ecoamgueddfa, mae’n dibynnu’n hollol ar ddiddordebau a dyheadau’r cymunedau lleol. Yr edefyn sy’n eu clymu i gyda at ei gilydd yw’r teimlad o ‘le’ neu ‘fro’ a’r awydd i rannu hynny gydag eraill. 

 

Ein nod yw sicrhau fod pobl yn gyffredinol ac ymwelwyr yn benodol yn deall fod Pen Llŷn yn gartref yn ogystal ag yn gyrchfan i dwristiaid. Rydym am sicrhau fod cymunedau heddiw a chymunedau’r dyfodol yn gallu ffynnu yn eu milltir sgwar eu hunain ar eu telerau eu hunain a thrwy wneud hynny, cyfoethogi profiad yr ymwelydd, a symud oddi wrth dwristiaeth sy’n echdynu’n unig.

About-Icon.png

Amdanom ni

Blog-ico.png

Digwyddiadau

Rhannwch eich antur, rhannwch eich stori

Tagiwch ni yn eich siwrna o gwmpas Pen Llŷn #Ecoamgueddfa

bottom of page