Porth y Swnt
Canolfan rhagoriaeth arfordirol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Porth y Swnt
Mae’r ganolfan dehongli unigryw yma yng nghanol Aberdaron yn defnyddio barddoniaeth a chelf i amlygu’r rhinweddau arbennig sy’n gwneud Pen Llŷn yn ardal mor gyfoethog o ran hanes, diwylliant ac amgylchedd.
Mae’r enw Porth y Swnt yn cyfeirio at Swnt Enlli gerllaw a'r defnydd o’r ganolfan fel porth i ddarganfod ac archwilio’r ardal gyfagos.
Wedi ei ysbrydoli gan bererinion sydd wedi teithio i Aberdaron ac i Ynys Enlli am gannoedd o flynyddoedd, mae Porth y Swnt yn mynd a chi am daith bersonol arbennig. Teithiwch i fyny o’r ‘Dwfn’ sydd yn dywyll ac yn atmosfferig, trwy’r ‘Ffordd’ lle gwelir rhyngweithiad dyn a’r tir, i fyny i’r ‘Golau’ lle welwch ganolbwynt y ganolfan- optic goleudy Ynys Enlli sydd wedi cael ei ddigomisiynu. Ar hyd y daith gallwch ddarllen eiriau beirdd lleol, gwylio ffilm a thafluniad golau, clywed synau sy’n ysgogi’r meddwl, a gweld lluniau hanesyddol o’r ardal.
Cyn gadael gallwch hel syniadau ar le a beth i wneud nesaf yn defnyddio mapiau a thaflenni, argymelliadau’r ceidwaid a thechnoleg gyffwrdd sgrin. Beth am gysylltu i’r WiFi a defnyddio Map Rhyngweithiol Llŷn sydd ar gael ar dudalen we Porth y Swnt? Syrffio, gwylio adar, bryngaerau hynafol, mwyngloddiau manganîs, dolffiniaid a cherdded- mae ‘na ddigonedd i’w fwynhau.
Hefyd ym Mhorth y Swnt mae Sisial- siop sydd yn gwerthu nwyddau unigryw ar gyfer chi a’r cartref megis dillad i’r traeth, gemwaith a chrefftwaith. Diddordeb mewn rhywbeth i ddefnyddio chydig mwy o egni? Rhowch gynnig ar weithgareddau awyr agored megis caiacio, syrffio ac arfordiro sy’n cael ei gynnig trwy bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwmni gweithgareddau awyr agored lleol.
Yn agored trwy’r flwyddyn mae Porth y Swnt yn ganolbwynt perffaith i archwilio a mwynhau'r ardal a’r oll sydd ganddo i’w gynnig.
Oriau Agor
Oriau agor 2019 i'w gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
https://www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/porth-y-swnt#Opening%20times
Tâl Mynediad
Oedolion - £2
Plant - £1
Mynediad am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Dim caffi
Lluniaeth ar gael ym Mhentref Aberdaron
Toiledau
Maes Parcio
Tâl Mynediad
Am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cysylltu
01758 703 810 / porthyswnt@nationaltrust.org