top of page
Cardigan-©-Nant-68.jpg

Nant Gwrtheyrn

Mae Nant Gwrtheyrn, neu’r ‘Nant’ fel y’i gelwir ar lafar gwlad, wedi’i lleoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn LlÅ·n, ger pentref Llithfaen.

​

Mae Nant Gwrtheyrn ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg, caffi a llety hanesyddol rhagorol, i gyd mewn cwm hudolus sy’n llawn hanes a diwylliant.

​

Mae lleoliad unigryw Nant Gwrtheyrn yn cynnig golygfeydd godidog wrth i chi fynd ar deithiau cerdded ar hyd yr arfordir a thrwy’r goedwig, lle bydd byd natur i’w weld ar ei orau. Yn ein cwm diarffordd, cewch gyfle i brofi elfennau mwyaf dilys diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru.

Cardigan-©-Nant-31.jpg
About-Icon.png
Icon-cafe].png

Caffi

Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png
Icon-Free-entry.png
Digital-Trails-Icon.png

Maes Parcio

Mynediad am ddim

Teithiau

Cerdded

Pethau i'w gwneud yn y Nant

​

  • Ymweld â’r ganolfan dreftadaeth a bythynnod chwarelwyr i ddysgu am hanes y cwm.

  • Cerdded ar hyd llwybrau lle mae’r môr a’r mynyddoedd yn cyfarfod. Mae'r Nant yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n gyforiog o anifeiliaid gwyllt, adar prin, planhigion a blodau.

  • Ymlacio yng Nghaffi Meinir, lle mae’r holl fwyd yn gynnyrch cartref a lle cewch chi wasanaeth Cymraeg ardderchog a chyfle i fwynhau golygfeydd arfordirol anhygoel.

  • Ymuno â 30,000 o fyfyrwyr sydd wedi mynd ar gyrsiau Cymraeg a diwylliant yn y gorffennol yn ein canolfan ddysgu.

  • Aros yn y bythynnod traddodiadol a hyfryd.

​

Gyda chyfleusterau dan do a thu allan, gallwch fwynhau beth sydd gan y Nant i’w gynnig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd. Mae mynediad am ddim i’r safle cyfan ac mae croeso i gŵn ym mhobman y tu allan.

Oriau agor

11:00 - 16:00

 

Cyswllt

01758 750 334

post@nantgwrtheyrn.org

​

Gwefan

www.nantgwrtheyrn.org

​

FB Icon.png
Twitter Icon.png
Insta Icon.png
bottom of page