top of page
Plas-glyn-y-weddw-header.jpg

Oriel Plas Glyn y Weddw

Plas Glyn y Weddw, a adeiladwyd dros ganrif a hanner yn ôl yw oriel gelf hynaf Cymru. Mae'r Plas mewn lleoliad godidog gerllaw traeth Llanbedrog ac yn mwynhau golygfeydd benidgedig o Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri a Meirionydd.

​

Adeiladwyd Plas Glyn y Weddw yn 1856/57 i'r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, gweddw Syr Love Jones-Parry, sgweiar ystád Madryn. Mae'r adeilad yn enghraifft ragorol o blasty Gothig Fictoraidd wedi ei leoli ar arfordir deheuol Penrhyn LlÅ·n ac wedi ei restru Gradd II* gan CADW.

​

Cedwid casgliad celf personol y Fonesig mewn deg ystafell a oedd wedi eu cynllunio yn bwrpasol ar gyfer arddangos arlunwaith. Gyda'i risiau Jacobeaidd mawreddog, ei ffensetri lliw, a'i dô trawsgordd deil i arddel yr enw Oriel yng Nglyn-y-Weddw.

Plas-glyn-y-weddw-main2.jpg
Icon-cafe].png

Caffi

Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png

Maes Parcio

Icon-Free-entry.png

Mynediad

am ddim

Digital-Trails-Icon.png

Taith Gerdded

Cynhelir arddangosfeydd newydd yn rheolaidd gan artistiaid o Gymru a thu hwnt. Mae gan y Plas 6 ystafell arddangos ynghyd ag ystafell printiadau ac ystafell hanes. Mae'r ystafelloedd wedi eu henwi i gydnabod cyfraniad unigolion â'r Plas, er engrhaifft - 'Oriel Andrews' ac 'Oriel ap Tomos'. Mae'r Plas yn Oriel fasnachol gyda'r gwaith arddangos ar weith.

 

Cynhelir gweithdai celf i blant ac oedolion gan gynnwys darlithoedd, ffeiriau crefft a chyngherddau poblogaidd trwy gydol y flwyddyn.

​

Y Goedwig Goll

Ar ôl bod ar gau am dros 70 o flynyddoedd mae'r rhwydwaith o lwybrau sy'n gwau trwy'r Winllan yn agored unwaith eto.

​

Mae'r rhwydwaith yn cynnig dewis o gylchdeithau ynghyd a rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae'r amffitheatr newydd yn ganolfan aml bwrpas - yn ogystal a bod yn lwyfan ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau mae'n ganolfan ar gyfer gweithdai dehongli a threftadaeth.

Oriau agor

10:00 - 16:00

 

Cyswllt

01758 740 763

enquiries@oriel.org.uk

​

Gwefan

www.oriel.org.uk

​

FB Icon.png
Twitter Icon.png
Insta Icon.png
Youtube Icon.png
bottom of page