top of page
Porth-y-Swnt-header.jpg

Porth y Swnt

Mae’r ganolfan dehongli unigryw yma yng nghanol Aberdaron yn defnyddio barddoniaeth a chelf i amlygu’r rhinweddau arbennig sy’n gwneud Pen LlÅ·n yn ardal mor gyfoethog o ran hanes, diwylliant ac amgylchedd.

​

Mae’r enw Porth y Swnt yn cyfeirio at Swnt Enlli gerllaw a'r defnydd o’r ganolfan fel porth i ddarganfod ac archwilio’r ardal gyfagos.

​

Wedi ei ysbrydoli gan bererinion sydd wedi teithio i Aberdaron ac i Ynys Enlli am gannoedd o flynyddoedd, mae Porth y Swnt yn mynd a chi am daith bersonol arbennig. Teithiwch i fyny o’r ‘Dwfn’ sydd yn dywyll ac yn atmosfferig, trwy’r ‘Ffordd’ lle gwelir rhyngweithiad dyn a’r tir, i fyny i’r ‘Golau’ lle welwch ganolbwynt y ganolfan- optic goleudy Ynys Enlli sydd wedi cael ei ddigomisiynu. Ar hyd y daith gallwch ddarllen eiriau beirdd lleol a gwylio ffilm a thafluniad golau.

Porth-y-Swnt-main.jpg
Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png

Maes Parcio

Icon-Free-entry.png

Mynediad am ddim

Hefyd ym Mhorth y Swnt mae Sisial- siop sydd yn gwerthu nwyddau unigryw ar gyfer chi a’r cartref megis dillad i’r traeth, gemwaith a chrefftwaith.

​

Mae Porth y Swnt yn ganolbwynt perffaith i archwilio a mwynhau'r ardal a’r oll sydd ganddo i’w gynnig.

bottom of page