Does dim llawer o goedwigoedd na choetiroedd yn Mhen Llŷn, a llai fyth o goedwigoedd coed cynhenid yn llawn Derw (Oak) ac Onnen (Ash). Mae’r tirwedd wedi ei drawsnewid dros filoedd o flynyddoedd yn ardaloedd eang o grug ar y bryniau a glaswelltir wedi ei wella ar gyfer cael ei bori gan anifeiliaid ar weddill y tir. Mae rhai coedwigoedd bychan wedi goroesi yma ac acw, wedi eu gwasgaru ar draws y tirwedd, fel arfer ar lethrau dyffrynnoedd a thiroedd sydd yn rhy wlyb i’w gwella ar gyfer amaeth. O fewn y cynefinoedd coediog yma mae cyfoeth mawr o fioamrywiaeth gyda amrediad eang o blanhigion, anifeiliaid, cen, mwsog a ffwng.
Pan fod amodau’r tywydd yn ffafriol mae’r coedwigoedd yma yn trawsnewid yn gyfan gwbl yn yr hydref, yn troi’n arddangosfa naturiol ysblennydd o liwiau yn newid o flaen ein llygaid wrth i’r cloroffyl gwyrdd yn y dail gael ei dorri i lawr a’r carotenau (melyn) ac anthocyaninau (coch a pinc) ymddangos.
Os fyddwch ym Mhen Llŷn rhwng canol Hydref a chanol Tachwedd mae’n werth chweil ymweld ag un o’r safleoedd coediog yma i fwynhau’r arddangosfa o liwiau a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt. Bydd Sgrech y Coed (Jays) yn brysur yn casglu mes, a heidiau o adar y goedwig, Titw Tomos Las (Blue Tits), Delor y Cnau (Nuthatches), Dringwr bach (Treecreepers), Dryw Eurben (Goldcrests) a’r Siff-saff (Chiffchaffs) yn bwydo. Mae’r safleoedd sy’n cael eu disgrifio isod yn llefydd da i ddechrau…
Gallt y Bwlch
Mae’r goedwig anhygoel yma sy’n dal gafael yn dyn i’r clogwyn yn ymyl Nant Gwrtheyrn fel rhywbeth allan o fyd y tylwyth teg gan fod y coed derw a chyll yn ‘gorachod’, a’u tyfiant wedi ei gyfyngu dan ddylanwad y tirwedd a gwyntoedd cryf a’r heli o’r môr. Edrychwch allan am y Geifr Gwyllt sydd yn crwydro ar hyd y bryniau yma cyfagos.
Afon Dwyfor
Wrth gerdded o bentref Llanystumdwy ar hyd afon Dwyfor byddwch yn dod ar draws coed derw sy’n doreithiog o redyn a mwsogl, coed cyll hynafol a choed ffawydd. Edrychwch os gallwch weld Bronwen y Dŵr (Dipper) yn gwibio dros wyneb yr afon fyrlymus.
Plas Glyn y Weddw
Coedwig gymysg sy’n amgylchynu Oriel Plas Glyn y Weddw, a honno’n troi’n frithlen anhygoel o liwiau yn ystod Mis Hydref a Thachwedd. Mae nifer o lwybrau cerdded drwy’r goedwig yn arwain at Fynydd Tir Cwmwd a Thrwyn Llanbedrog lle gallwch fwynhau golygfeydd gorwych dros y coed draw tuag at ehangder Bae Ceredigion. Beth am drio un o’r teithiau cerdded yma.
Plas yn Rhiw
Coedwig onnen a sycamorwydden sy’n amgylchynu Plas yn Rhiw, maenordy bychan sydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae nifer o lwybrau cerdded yn rhoi cyfle gwych i ymwelwyr grwydro drwy’r goedwig fechan a draw ar hyd ochr y mynydd gerllaw i fwynhau’r bywyd gwyllt a hanes cyfoethog y safle. Mae ‘na fwy o wybodaeth i’w gael yma.
Comments