top of page

Ysgol Bro Plennydd

Ysgol Bro Plennydd

Mae hi’n fyd sydd yr un mor fyw a byrlymus ym mhentref Y Ffȏr heddiw ac yr oedd hi ers talwm pan, pe cerddech chi o gwmpas y pentref, y byddech chi’n bur debyg o glywed sŵn ceffylau’n gweryru o gyferiad y stablau’n y ‘Fourcrosses Inn’, sŵn y gȏf wrth ei waith yn yr Hen Efail a’r parablu siarad yn siop Leusa Pys a Mary Chips.

Sŵn ceir, faniau a lorȉau glywch chi’n rhuo’n barhaus trwy’r pentref dyddiau yma. Mae calon y pentref yn dal i guro a’r prysurdeb yn parhau yn y garej, yn y siopau, yng Nghanolfan y Gwystl, Ffatri Hufenfa De Arfon a Meithrinfa Tyddyn Sachau.


Mae plant yn dal i chwarae ac ymgynnull yma ac acw o gwmpas y pentref. Plant y pentref a’r fro cyfagos, ynghyd ag Anti Gwyneth ac Anti Janet, sydd wedi pwytho’r cyfoeth o enwau sydd ar gefnlen Bro Plenydd sy’n fap ac yn gofnod mor bwysig o fywyd y pentref, ddoe a heddiw.


Cyflwyniad Bro Plenydd Y Ffôr yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023


Bore da !

Disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bro Plenydd ydan ni a mi fuon ni yn ddigon lwcus i gael gweithio ar greu’r gefnlen arbennig yma gyda Mrs Gwyneth Fôn Jones a Mrs Janet Jones-Parry neu Anti Gwyneth ac Anti Janet i ni !

Mae Ysgol Bro Plenydd ym mhentref Y Ffôr sydd dair milltir i’r gogledd ddwyrain o Bwllheli.


Mae priffordd eithriadol o brysur yr A499 yn rhedeg drwy’r pentref o gyfeiriad Caernarfon ac rydym wedi hen arfer gweld pob math o drafnidiaeth yn tarannu heibio – ceir, faniau, beiciau modur, loriau anferthol, carafannau gwyliau a pheiriannau amaethyddol.


Yr wythnos yma fodd bynnag mae’r pentref yn brysurach fythgan fod y rhan fwyaf o ymwelwyr y ‘Steddfod o dde a gogledd Cymru yn teithio drwy’r Ffôr i gyrraedd pen eu taith yma ym Moduan!


Nodwedd amlycaf ein pentref ni yw’r groesffordd yn ei ganol a hebddo ni fyddai’r pentref yn bodoli o gwbl.

Yn 1842 sefydlwyd y ‘Porthdinllaen and Nantgwynant Turnpike Trust’ pan ddaeth tirfeddianwyr a ffermwyr cefnog at ei gilydd i gynnal gwaith gwella a thrwsio ar y ffordd o Feirionnydd i Lŷn.


Yn y man lle croesai’r ffordd honno gyda’r briffordd o Gaernarfon i Bwllheli y datblygodd ein pentref – sef Fourcrosses neu Y Ffôr erbyn heddiw.


Fel y gwelwch ar y gefnlen – y groesffordd yw’r asgwrn cefn ac mae hen fapiau wedi dysgu i ni sut y datblygodd y pentref o’i chwmpas dros y blynyddoedd.


OND- mae dau leoliad ar y gefnlen a oedd yn bodoli ymhell cyn cyfnod trwsio y lôn o Borthmadog i Borthdinllaen yn 1842.


Un ohonynt yw Plas Gwyn sef y ffermdy Tuduraidd hynafol, sy’n sefyll tu allan i’r pentref ar y ffordd i Bwllheli.

Fe’i adeiladwyd yn yr unfed ganrif a’r bymtheg ac mae sôn fod ynddo goridor cudd ar gyfer cuddio offeiriaid Catholig.


Yn ystod Oes y Frenhines Fictoria, roedd cymeriad hynod iawn yn byw Mhlasgwyn sef Owen Jones. Yn ôl y sôn roedd yn gallu taflyd ei lais ac yn gallu dynwared synnau pob mathau o anifeiliaid. Roedd yn gymeriad annwyl iawn a oedd yn mwynhau ychydig o hwyl diniwed.


Byddai’n gyrru’r ci yn wallgo drwy ddynwared sŵn gwenyn ac un noson dychrynodd ei was meddw drwy guddio yn y clawdd a gwneud sŵn bwgan wrth iddo ddod adref o’r dafarn leol.


Ond y peth hynaf un yn ein pentref wrth gwrs ac sy’n dystiolaeth fod sefydliad yma ers cyfnod Oes y Cerrig yw’r Gromlech. Mae’n dyddio yn ôl bum mil o flynyddoedd ac i’w gweld ar dir fferm o’r un enw, dros y ffordd i’r Plasgwyn.


Yn Englynion Llywarch Hen mae sôn am Rhydderch Hael yn cael ei gladdu ym Mhlwyf Abererch a falla mai ei feddrod ef yw’n cromlech ni.


Yn wreiddiol adeiladwyd y Pig Hotel ar y groesffordd fel lle i’r goets fawr gael saib ar ei thaith, i gyfnewid ceffylau ac i’r teithwyr cael cynhesu eu hunain wrth y tân.


Mae’n amlwg hefyd o enw’r dafarn fod ffeiriau gwerthu moch yn cael eu cynnal ar y groesffordd yn ystod y cyfnod yma.


Yn ddiweddarach, ail adeiladwyd y dafarn ar yr un lleoliad a’i galw yn Fourcrosses Inn ac mae’r hen arwydd hwnnw yn parhau ar dalcen yr adeilad ac yn gwynebu teithwyr o gyfeiriad Caernarfon hyd y dydd heddiw – er fod y dafarn wedi hen gau! Gwaetha’r modd !


Fel y gwelwch - mae’r gefnlen yn gofnod o’r Ffôr ddoe a heddiw. Mae llawer o’r enwau arni yn llefydd yr ydym ni’n eu hadnabod yn dda:


Stad Dolwar a Lôn Tŷ’r Gôf

Garej O H Griffiths

Meithrinfa Tyddyn Sachau a Meddygfa Deufor

Capeli Ebeneser a Salem

Hufenfa De Arfon a Stryd Madog

Tafarn y ‘Peg and Mallet’

Y Maes Chwarae a’r Ganolfan

Ac wrth gwrs .......... Ysgol Bro Plenydd!


Fe agorwyd ein hysgol ni yn 1912 fel y Fourcrosses County School. Roedd hi’n ysgol fodern yn ei chyfnod ac yn un o ddwy ‘open air school’ a adeiladwyd yn Sir Gaernarfon mewn ymateb i afiechyd y TB.


Roedd yr hen ysgol – Ysgol Plasgwyn a agorwyd yn 1834 ar y fforch yn y ffordd sy’n troi i’r chwith am Abererch uwchben Canolfan Arddio Tyddyn Sachau heddiw.


Yn ddiweddarach galwyd yr ysgol yn Ysgol Bro Plenydd ar ôl y bardd lleol – Plenydd neu Henry Jones Williams 1844 – 1926.


Mae yna sawl lle ar y gefnlen na chawsom ni erioed y cyfle i’w hadnabod ond  sy’n llefydd roedd plant Y Ffôr erstalwm yn eu hadnabod yn dda iawn, siŵr o fod.


Dyna i chi Cae’r Hôl ar Stryd Madog ble byddai y plant yn chwarae cyn i stȃd o dai eu hadeiladu yno. 


A Siop Uchaf neu Storfa Gwynfa wedyn ble y byddai plant erstalwm yn prynu fferins.


A West View oedd yn glamp o dŷ dros ffordd i’r ysgol ar safle ‘Ride on Mowers’ heddiw ac sydd wedi ei hen ddymchwel.


A’r Weirglodd oedd yn hafan i flodau gwyllt a phryfetach cyn codi Stad Dolwar.


A chawsom ni erioed weld y gôf wrth ei waith yn Nhy’r Gôf nac yn yr Hen Efail na gweld Moss Jones y crydd yn trwsio sgidia yn Morannedd, na chyfarfod Ann Owen y Doctor Dail yn Tŷ’n Lon Bach na phrynu sglodion gan Leusa Pys a Mary Chips.


Ac er ein bod yn adnabod y Ffatri Laeth yn Rhyd y Gwystl a Thŷ’n Giat ar y bont, welson ni erioed y Ffatri Wlân na’r Pandy.


A chawsom ni erioed ganu yng nghôr plant Ceridwen Peris oedd yn byw yn un o’r tai ar Rhes Glanrafon.


A phwy fyddai’n credu fod dwy dafarn yn y pentref ar un adeg – Y Fourcrosses Inn a’r Niwbro Arms ar Rhes Bron Erch!


A meddyliwch profiad anhygoel fyddai gweld ceffylau yn Stablau y Fourcrosses Inn a moch a gwartheg ar werth ar y groes!


Mae yna gyfoeth o enwau ar y gefnlen erbyn hyn. Ond nid fel ‘na oedd hi ar y dechrau pan gyrhaeddodd y blanced wag o sgwariau amryliw yr ysgol am y tro cyntaf !


Dan arweiniad Anti Gwyneth ac Anti Janet buom yn darlunio ac yn lliwio ac yn pwytho hyd nes y datblygodd dros wythnosau lawer i fod y gyfanwaith ydi hi heddiw. Map o’r pentref ydi hi bellach gyda phobman wedi ei bwytho yn ei leoliad cywir.


Hoffem ddiolch i chi am y profiad hyfryd o gael gweithio efo chi ac am yr esgus i gael denig o’r dosbarth i’r lolfa atoch chi !


Os hoffech chi astudio’r gefnlen yn fanylach mae hi’n cael ei harddangos ym Mhabell Ysgolion Dalgylch Glan y Môr drwy’r wythnos.


Ond lle eith hi wedyn tybed ?


Mi fyddai’n biti iddi gael ei rowlio i fyny a’i chadw mewn rhyw storfa yn rhywle yn bydda a gymaint o waith wedi mynd i fewn iddi!


Mi fyddai’n wych petai mwy o bobl yn cael y cyfle i’w gweld hi ar ôl i’r Steddfod fynd trosodd.


Falla y byddai’n syniad ei harddangos gyda ceflenni pentrefi eraill yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli neu Oriel Plas Glyn y Weddw lle fuodd y goron a’r gadair cyn iddi ddychwelyd adref i’r Ffôr a’i harddangos yng Nghapel Ebeneser neu yn y Ganolfan cyn dod yn ôl i’r ysgol!


Rhan arall o’r prosiect Gair Mewn Gwlân oedd cael cydweithio gyda’r bardd Mared Llywelyn ar lunio cerdd i gydfynd â’r gefnlen. Profiad gwerth chweil arall a diolch yn fawr i Mared hefyd!


Buom wrthi am fore cyfan yn pendronni, yn meddwl ac ail feddwl yng nghwmni Mared cyn i’r gerdd ddod yn fyw. A dyma hi;


Fourcrosses,

fel bynsen y gro

yn galon sy’n curo

yn fan cyfarfod

yn lôn sy’n arwain at glytwaith ein pentra

yn bobl, yn straeon, yn enwa.

Y Gromlech hynafol

yma ers cyn cof

yn sefyll yn gadarn

boed storm neu haul.

Pwy fu’n clochdar yn y Pig Inn?

Tafodau tewion yn sgwrsio, rhannu jôcs

cwrw cynnes yn llifo

i lawr y lôn goch!

Sŵn y dŵr yn suo gan yr haearn

a gwreichion poeth yn tasgu fel sêr

yn Lôn Tŷ’r Gof.

Gweddïau tawel yn llenwi

Salem ac Ebeneser

A’r ‘A Oes Heddwch?’ yn atsain

Yn y Steddfod pob Ebrill.

Cymeriadau doeth a drygionus

O Ty’n Lôn Bach, Ann Owen y Doctor Dail

I Leusa Pys a Mary Chips

Ar Lôn Caernarfon –

Lle roedd ogla saim yn llenwi ffroena

A blas halen a finag ar wefusa.

Bara ffres a photeli llefrith

Yn Siop Gwynfa

Jariau lliwgar o fferins

Taffi triog, licyris a lolipops

A llygaid y siopwr clên yn gwenu

Tu ôl i fframiau’r sbectol drwchus.

Heddiw mae’r plant yn chwarae

Ar stad tai lego Dolwar

Yn reidio beics

A chicio pêl fel Gareth Bale.

Yn prynu Haribos a Jollyranchers

Yn Londis

A rasio chwiaid melyn plastig

Dan bont Rhydygwystl.

Ym Mro Plenydd

Mae’r plant yn dysgu a thyfu

A hyder i’w glywed

Yn eu chwarae a’u chwerthin.

Yn y bore bach

mae’r afon Erch yn siffrwd.

Er bod y lôn yn dawel

Bydd ei chalon yn parhau i guro

Tan bydd pawb yn deffro.


Diolch yn fawr i chi am wrando ar ein cyflwyniad.

Cawsom hwyl fawr a phleser yn creu’r gefnlen

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau edrych arni hefyd !

bottom of page