top of page

Gair Mewn Gwlân

Tybed wnaethoch chi ymweld â stondinau Yr Ecoamgueddfa a Chyngor Gwynedd yn Eisteddfod Boduan?  Os hynny, efallai i chi daro ar gyflwyniadau Gair Mewn Gwlân gan ysgolion dalgylch yr Eisteddfod.  Mi fuon nhw wrthi ar hyd yr wythnos yn siarad am eu rhan nhw yn y project hwn. Project cymunedol ydi Gair Mewn Gwlân, ac fel y dywedodd Mared Roberts, Canolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy amdano: “mae o wedi dod â chenedlaethau gwahanol o fewn cymunedau Gwynedd at ei gilydd i ddathlu enwau a threftadaeth unigryw ein brӧydd”.

 

Derbyniodd 34 o ysgolion Gair Mewn Gwlân becyn o 64 sgwâr ac roedd pob sgwâr  8 modfedd ei hyd a’i led wedi’u gweu neu eu crosio gan unigolion a grwpiau o bob cwr o’r byd.  Do, cafwyd ymateb anhygoel i’r cais am sgwariau!  Yna aeth cyfeillion pob ysgol ati i wnïo’r sgwariau yn gefnlenni ac i frodio enwau unigryw yn perthyn i fro     pob ysgol ar y cefnlenni, gyda help y plant

 

Fel y gwyddom mae stôr o wybodaeth am hanes ein hardaloedd mewn enwau lleol a phlant yr ysgol oedd yn morol ac yn dewis yr enwau a bellach maen nhw ar gof a chadw yn y murluniau. A wir yr, maen nhw yn werth eu gweld – ac os na chawsoch gyfle i’w gweld ym Moduan, bosib y daw cyfle eto yn ystod y gaeaf...ia, mwy am hynny eto!

Cyhoeddodd Gweamgueddfa lyfr hardd yn cyflwyno stori’r project.  Yn y llyfr mae storïau a lluniau rhai o’r bobol hynny sydd wedi bod yn gweu a gwnïo a hefyd mae yma gerddi.  Cerddi ydyn nhw gan blant yr ysgolion sy’n ein tywys at yr enwau a frodiwyd mor arbennig ar y cefnlenni.

 

Fyddai’r project hwn ddim wedi bod yn bosib heblaw am gymorth Ecoamgueddfa Llŷn a Llenyddiaeth Cymru.  Yr Ecoamgueddfa sydd wedi ariannu’r llyfr  – tra bu Llenyddiaeth Cymru yn noddi gweithdai barddoniaeth dan arweiniad medrus Casia Wiliam i athrawon.

Hel enwau lleol gyda Ty Cam.jpeg

Cefnlenni ysgolion Gwynedd

Yn y gyfres hon o erthyglau mi gewch bob ysgol yn sôn am eu rhan nhw yn y project. Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen yr hanes!

bottom of page