top of page

Ysgol Edern

Ysgol Edern

Wrth i chi ddod lawr Allt Goch i bentref Edern o gyfeiriad Morfa Nefyn a Phwllheli– yr adeilad cyntaf welwch chi ar waelod yr allt yw’r Felin. I’r Felin y deuai J.Glyn Davies i aros bob Hẩf, yr ardal yma a’i thraethau braf a’i ysbrydolodd i sgwennu’i siantis adnabyddus a phoblogaidd. Mae’r tir, y llwybrau, y ffermydd a’r caeau, adeiladau’r pentref, yr ogofau a’i  thraethau a’u hanes yn dal i ysbrydoli.


Diolch i brosiect Gair mewn Gwlẩn, mae’r enwau hynod sydd wedi’u casglu gan y plant a thrigolion y pentref a’r ardal cyfagos ar gôf a chadw ac yn saff erbyn hyn ar gefnlen Ysgol Edern.


Gweledigaeth oedd ‘Gair Mewn Gwlân’ i annog chwilfrydedd yn yr ysgolion ac i gysylltu profiadau, gwybodaeth a sgiliau i greu adnodd gwerthfawr a fyddai’n dathlu enwau byw ac anghofiedig ardal Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Diolch i Esyllt Maelor am drefnu’r project ac i’n hannog ni, yn athrawon, disgyblion a’u teuluoedd i gofnodi’r cyfoeth o enwau sydd yn ein hamgylchynu yn ein hardaloedd – y gymuned ble rydan ni’n byw, y gymuned ble rydan ni’n gweithio, yr enwau a gymerir yn ganiataol, yr enwau a allai ddiflannu... Llwyddiant gweledigaeth Esyllt yw fod pob enw wedi cael ail wynt a’u pwytho ar gof a chadw. Yn sicr, yn Ysgol Edern gwerthfawrogwyd y cyfle i’n hatgoffa o’r enwau sy’n rhan annatod o gyfoeth yr ardal a dilyn y stori ynghlwm wrth ambell enw.


Rhaid oedd cychwyn yn rhywle, felly rhoddwyd taflen i bob disgybl i fynd adref i gofnodi enwau yn Edern oedd yn gyfarwydd i Mam, Dad, Nain, Taid, Modryb, Ewythr a chymdogion. Roedd yr ymateb yn wych, a difyr oedd darllen yr enwau i gyd – y cyfarwydd a’r anghyfarwydd. Ymchwilio i ystyr ambell enw wedyn, a’u dysgu. Yna, diolch i Anti Margaret, Brychyni (nain), Anti Siân (nain o Landwrog), Mai Scott (nain), Anti Meinir, Giatgoch ac Anti Beryl, Sychnant, cafodd pob disgybl ddysgu’r sgil o bwytho drwy gofnodi un enw yr un ar y flanced, sydd heb os nac oni bai yn werth ei gweld. Teimlad braf oedd edmygu’r gwaith gorffenedig ym mhabell Ecoamgueddfa Llŷn ar faes yr Eisteddfod.


Yna daeth y cais i ysgrifennu cerddi yn ymateb i’r cyfoeth o enwau a gofnodwyd gan y plant. I mi, roedd y gwersi hyn o drafod, arbrofi a chreu gyda disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn gyfnodau hwyliog a phleserus. Doedd dewis enw ar gyfer un o’r cerddi ddim yn dasg anodd o gwbwl – yn unfrydol dewiswyd Bryn Gŵydd, traeth hyfryd yr oedd pob un yn y dosbarth wedi ymweld ag o, fwy nag unwaith. Hawdd iawn oedd y cam nesaf hefyd, sef troi yn syth at gampwaith awdures leol, Meinir Pierce Jones: ei nofel ‘Capten’ a enillodd iddi Wobr Goffa Daniel Owen yn Nhregaron y llynedd.


Gwyddai’r plant fy mod i wedi mopio gyda ‘Capten’, a dyma gyflwyno iddynt y darn hyfryd sydd yn y nofel a’i ddadansoddi gyda chrib mân – y darn hwnnw ble mae Meinir yn disgrifio traeth Bryn Gŵydd, yn hyfryd o gynnil a’r eirfa yn fendigedig.


pwtyn cul o draeth

chwarae plant o draeth

tafod glas hir o lwybr

dilyn glas gobeithiol y môr

gwasgwyd haul canol dydd rhwng y creigiau i greu popty awyr agored crasboeth

ymyl wen y tonnau wrth i’r llanw glosio


Yna mynd ati i greu delweddau, cymariaethau, argraffiadau, sesiwn ‘geirfa gwerth chweil’ – a chreu cerdd ddosbarth drwy ddefnyddio gwaith paratoi pob un plentyn yn y dosbarth. A dyma’r canlyniad:


Bryn Gŵydd

(Cerdd wedi’i hysbrydoli gan nofel Meinir Pierce Jones, ‘Capten’)


Cyrraedd y traeth llawn lliw a llun.

Creigiau mawreddog yn hawlio’r darlun.

Ynysoedd o greigiau yn llawn teuluoedd o greaduriaid amrywiol.

Cregyn budur i lanhau’r mwd sy’n datgelu’r gwirliw.

Tonnau cadarn yn taro’r creigiau a sisial cyfrinachau.

Antur drwy neidio dros y cerrig camu llwydlas llithrig.

Anwybyddu pont droed bitw fel Merched Beca yn anwybyddu rheolau’r tollau drwy ddefnyddio’r cerrig camu unigryw.

Llanw braf araf diog yn dod tuag atom yn swil a rhythmig fel tician cloc.

Olion cargo llong y Cyprian i’n hatgoffa o’r gorffennol.

Afon yn haneru’r ‘chwarae plant o draeth’ fel planhigyn yn ymestyn ei

wreiddiau.

Sylwi ar beli golff yn swatio ymysg y gwymon gwlyb.

Sbwriel yn llygru ein darlun perffaith.

Broc môr brwnt a chrebachlyd yn adrodd storïau difyr di-ri.

Awel oer siarp yn chwythu ac yn cyffwrdd ein bochau coch fel ceirios.

Arogl hallt yn ein hatgoffa o sglodion anfarwol Siop Morfa.

Ewyn gwyn yn gysur fel llefrith poeth ar wyneb coffi.

Mynd adref o’r ‘pwtyn cul o draeth’ a throi cefn ar ddelweddau byw ein diwrnod.


Rhaid oedd anfon copi o’r gerdd ‘Bryn Gŵydd’ at Meinir, ac yn goron ar y cyfan anfonodd Meinir lythyr o ddiolch i’r plant drwy’r post. Llythyr i’w drysori, yn sicr!


Roeddwn mor ddiolchgar o’r cyfle i fynychu cwrs a drefnwyd yn Nhŷ Newydd Llanystumdwy, gyda Casia Wiliam, merch Meinir, yn cynnig sawl awgrym defnyddiol ar gyfer creu cerddi i’r project, a chyfeiriodd at gerdd llythyr – rhywbeth nad oeddwn erioed wedi’i ystyried cyn hynny. Roedd yn cynnig ei hun yn syth – cerdd ar ffurf llythyr i bentref Edern gan ddisgyblion 5 a 6 yr ysgol. Roedd cyfle yma i restru rhai o’r enwau hyfryd a ddaeth i law gan y plant – ac roedd yn addas ailymweld â cherdd ddirdynnol Aled Lewis Evans ‘Cwm Celyn’, ble mae’r bardd yn enwi’r ffermydd a’r tai a gollwyd pan foddwyd y pentref yn 1965. Hefyd edrych ar arddull Myrddin ap Dafydd yn ei nofel ‘Yr Argae Haearn’, yn rhestru’r ffermydd a fyddai’n diflannu pe bai Llangydeyrn yn cael ei foddi i gyflenwi dŵr i Abertawe. Mae rhywbeth effeithiol iawn iawn a dirdynnol yn yr arddull o restru enwau! Felly dyma greu cerdd sydd yn efelychu’r arddull arbennig yma.


Ysgol Edern,

Lôn Rhos,

Edern.


Annwyl Edern,

Caeau glas cynhyrchiol yn dy amgylchynu. Caeau anfarwol yn ein hatgoffa o gerrig traeth Aber Geirch. Blodau a choed yn ymlacio’n yr awel. Dy gyfaill ffyddlon, Afon Geirch, yn llifo’n braf a hamddenol fel curiad calon. Chdi yw canol cefn gwlad, fel trwyn ar wyneb.


Olion cerrig anwastad yn ein hatgoffa o lonydd ddoe. Ceffyl a throl a arferai drotian dros y bont; heddiw ceir aflafar di-ddiwedd sy'n amharu ar dy dawelwch. Plantos yn cael hwyl yn dy barc newydd. Ysgol gerllaw. Lle braf i fod gyda ffrindiau.


A wyt ti’n drist o weld dy gapel anferth dan glo? A wyt ti ar ben y byd fod drysau dy eglwys ar agor? A wyt ti’n fodlon dy fyd fod yr hen ysgol yn gartref i deulu lleol? A wyt ti’n hapus dy fyd fod Gwesty’r Goedlan yn ffynnu?

Ond weithiau mae ymwelwyr yn tarfu. Prisiau tai yn codi. Traffig yn cynyddu. Beth yw dy ateb? Ceryddu? Pwdu?


Hen Bost, Glanrhyd,

Llygad yr Haul, Tŷ’n Lôn,

Tyddyn Saith Swllt, Y Felin, a Mount.

Craigia, Cwmistir,

Tŷ Athro, Elidir

a Rhosgor.

Cae Bustach, Cae Eithin,

Cae Crwn, Cae Glas,

Cae Dan Bont, Cae Bryn Marchog

a Cae Gorlan.


Diolch i ti am drysori’r enwau ar gof a chadw: Allt Goch, Bryn Gŵydd, Ogof Bebyll, Lôn Pwll Clai, Llwybr Cam, Tir Bedw, Banhadlog a Bae Carreg yr Afr.


Crwydro neu aros, dy garu di ar hyd ein hoes a wnawn ni.


Cofion cynhesaf,

Disgyblion Blynyddoedd  5 a 6


Braint oedd cael bod yn rhan o broject difyr ac unigryw a lwyddodd i bontio cenedlaethau ac a ysgogodd chwilfrydedd, drafodaethau, creadigrwydd, ail-fyw atgofion, a chyplysu’r gorffennol gyda’r presennol. Mae pob un flanced yn destun balchder! 


Bethan Dyer

bottom of page