top of page
  • Ben Porter

Adar Mudol


Socan Eiria (Fieldfare) yn gwibio uwchlaw gyda’r lleuad yn y cefndir

Mae miloedd ar filoedd o adar mudol yn cyrraedd a galw heibio’r tirweddau a’r moroedd sydd yn amgylchynu Llŷn yn ystod yr Hydref. Mae safle strategol Pen Llŷn, sy’n ymestyn allan i Fôr Iwerddon yn golygu ei fod yn un o’r llefydd cyntaf neu olaf i‘r adar ei gyrraedd ar eu taith drwy’r wlad. Ar ddiwrnod oer a chlir yn yr Hydref mae’n bosibl gweld miloedd o Linosiaid, Corhedyddion, Bronfreithod a rhywogaethau eraill sy’n hedfan i’r De-Orllewin dros Ben Llŷn. Y gyfrinach, os ydych am eu gweld, yw edrych fyny a gwrando’n astud am gri’r gwahanol rywogaethau wrth iddynt hedfan uwchben.


Wrth gwrs, nid yw’r adar yma i gyd yn hedfan yn syth i lefydd eraill. Mae canran uchel ohonynt yn aros yn Llŷn am beth amser er mwyn bwydo a gorffwys, yn enwedig os yw’r gwrychoedd yn doreithiog o ffrwythau, ac ŷd yn y caeau. Mae’r adar yma yn hoff iawn o’r Ddraenen Wen (Hawthorn), ac yn aml gwelir y fronfraith mewn heidiau yn clwydo yn y coed ac yn bwyta’r aeron blasus. Mae’r Ywen (Yew) mewn mynwentydd hefyd yn boblogaidd gyda’r adar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac yn le da i weld Coch Dan-aden (Redwing), Aderyn Du (Blackbird), Brych y Coed (Mistle Thrushes) a Socan Eira (Fieldfares) yn Hydref a Thachwedd.



Cliciwch ar y saeth i weld y Ddraenen Wen yn trawsnewid dros y tymhorau


Aderyn arall sydd i’w weld yn rheolaidd yn Llŷn yn ystod cyfnod mudo adar yn yr Hydref yw’r Ehedydd (Skylark), sy’n heidio uwchben neu i’w gweld yn bwydo ar hyd caeau arfordirol Llŷn. Rydym yn gyfarwydd iawn gyda chân yr Ehedydd yma ar draws Cymru yn ystod y Gwanwyn, ond yn yr Hydref, fyddan nhw ddim yn canu ond bydd cannoedd o filoedd o adar mudol o’r Gogledd yn ymuno â’r adar sy’n byw’n lleol yn ystod y cyfnod magu/paru. Gallwn eu clywed yn galw ‘prrut—prut’ wrth hedfan.

Ehedydd (Skylark)



bottom of page