top of page
Rhiw.jpg

Amdanom ni

Nid adeilad yw ecoamgueddfa ond ‘amgueddfa’ sy'n canolbwyntio ar hunaniaeth llefydd. Mae pobl leol yn ganolog i’r fenter a’r nod yw tyfu’r economi wrth wella lles a datblygiad cymunedau lleol yn hytrach na chanolbwytio ar dwf economaidd di-reolaeth a di-enaid. Mae ecoamgueddfa yn syniad newydd sy’n dibynu ar ddehongli a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol yn hytrach na cyflwyno casgliad o hen greiriau fel welwch chi mewn amgueddfeydd confensiynol.

 

O Ffrainc ddaeth y syniad o ecoamgueddfa yn wreiddiol, a hynny yn 70au’r ganrif ddiwethaf. Ar hyn o bryd mae dros 300 o ecoamgueddfeydd i’w cael ar hyd a lled y byd a’r mwyafrif o’r rheini yng ngwledydd Ewrop. ‘Does dim llawlyfr ar gyfer creu Ecoamgueddfa, mae’n dibynnu’n hollol ar ddiddordebau a dyheadau’r cymunedau lleol. Yr edefyn sy’n eu clymu i gyda at ei gilydd yw’r teimlad o ‘le’ neu ‘fro’ a’r awydd i rannu hynny gydag eraill.

​

Sefydlwyd Ecoamgueddfa hon ym Mhen LlÅ·n 2014 a dyma’r gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru. Mae’n gweithredu mewn partneriaeth gyda saith sefydliad treftadol Pen LlÅ·n sef, Nant Gwrtheyrn, Amgueddfa Forwrol LlÅ·n, Felin Uchaf, Porth y Swnt, Plas yn Rhiw, Plas Glyn y Weddw, a Phlas Heli. Mae’n gweithredu’n ddigidol drwy wefan, a sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn dennu cynulleidfa byd-eang a chyfranogiad cymunedol.

Cardigan-©-Illustration-2.jpg

Rhannwch eich antur, rhannwch eich stori

Tagiwch ni yn eich siwrna o gwmpas Pen LlÅ·n #Ecoamgueddfa

Nefyn.jpg

Ei gweledigaeth yw gweld cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol, gan arwain at ddiwydiant twristiaeth pedwar tymor cynaliadwy, fydd yn dod a buddion economaidd i’r ardal yn ogystal â rhai cymdeithasol ac amgylcheddol. 

Mae'r Ecoamgueddfa yn gweithredu yn ddigidol drwy ddefnyddio technoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol mewn ffordd arloesol a phositif i ddenu cyfranogiad cymunedol a chynulleidfa byd eang i’r ardal arbennig hon. 

Mae’r ecoamgueddfa hon bellach yn rhan o prosiect LIVE. Mae ‘LIVE’, sef partneriaeth ecoamgueddfydd Pen LlÅ·n a Iveragh yn pontio dwy ardal debyg o bobtu Môr Iwerddon. Mae’n fwriad datblygu Ecoamgueddfa newydd sbon yn Iveragh a bwrw mlaen â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau ar #Ecoamgueddfa Pen LlÅ·n.

kayaka-icon.png
Abersoch-old-lifeboat-station.jpg
chough-icon.png
bikeride-cilan.jpg

Nod LIVE yw sicrhau fod pobl yn gyffredinol ac ymwelwyr yn benodol yn deall fod Pen LlÅ·n ac Iveragh yn gartref yn ogystal ag yn gyrchfan i dwristiaid. Rydym am sicrhau fod cymunedau heddiw a chymunedau’r dyfodol yn gallu ffynnu yn eu milltir sgwar eu hunain ar eu telerau eu hunain a thrwy wneud hynny, cyfoethogi profiad yr ymwelydd, a symud oddi wrth dwristiaeth sy’n echdynu’n unig.

 

Mae LIVE wedi cael ei ariannu'n rhannol gan raglen gydweithredu Iwerddon Cymru a bydd yn rhedeg am 3 blynedd (2020-2023).

 

Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar wefan LIVE

#ecoamgueddfa

bottom of page