top of page
Plas Carmel.jpg

Plas Carmel

Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tÅ·, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad LlÅ·n’ a welodd Cynan.

 

Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgwâr Plas Carmel. Gweledigaeth y fenter yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a’u pasio nhw ymlaen i’r cenedlaethau ifanc, tra’n gwneud lle i rhai newydd. Maent yn pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda’n byd ni heddiw, a’r rheiny yn rhan annatod o fywydau’r trigolion lleol. O lwybrau’r Seintiau a’r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd â hud a chwedlau lleol. Y gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth.

Plas Carmel - Dylunio Swi.jpg
Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png

Maes Parcio

Icon-Free-entry.png

Mynediad

am ddim

Icon-cafe].png

Caffi

Yr hanes yn gryno

​

Yn 1843, cafodd y safle ei roi ar les am 999 mlynedd  i Ymddiredolwyr Capel Carmel. Ar ôl i’r tenant olaf Thomas John Jones ymddeol o’r siop ac ymadael â’r tÅ·, dechreuodd yr adeilad ddirywio a phenderfynwyd bod rhaid gweithredu i’w diogelu cyn iddi fynd yn rhy hwyr.  Yn 2014 sefydlwyd pwyllgor lleol i ofalu am y gwaith. 

​

Bu dwy flynedd o waith caled gyda’r gwaith datblygol, cyflwyno cais lwyddiannus i Raglen Cyfleusterau Cymunedol, Llywodraeth Cymru tuag at isadeiledd, dod â thrydan i’r safle, yn ogystal ag elfennau cymunedol ac allanol megis tirlunio, man parcio a gwaith dehongli allanol. 

 

Yn 2020 dechreuwyd ar y gwaith adeiladu i adfer Siop Plas, yn ogystal â’r gwaith dehongli tu allan. Agorwyd Caffi Siop Plas yn mis Hydref 2021. 

Oriau agor

11:00 - 16:00 Dydd Iau - Dydd Sul 

 

Cyswllt

swyddfa.plascarmel@gmail.com

​

Gwefan

www.plascarmel.cymru

​

FB Icon.png
Insta Icon.png
bottom of page