
Gŵyl Archeoleg Llŷn
Rhaglen 2023
Amgueddfa Forwrol Llŷn fydd cartref yr Ŵyl Archeoleg eleni. Mi fydd yn cael ei chynnal o ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9fed tan dydd Gwener Rhagfyr 15fed ac yn cynnwys llu o weithgareddau fydd yn rhoi trosolwg o fywyd cyn hanesyddol ym Mhen Llŷn. Mae'r rhaglen llawn i'w gweld isod. Noder y bydd gweithdai ar gyfer disgyblion o ysgolion Pen Llŷn yn ystod boreau dydd Mercher, Iau a Gwener felly awgrymwn i chi ymweld a’r arddangosfa wedi’r gweithdai ddod i ben am 11:30am.

Arddangosfa Meillionydd
Rhagfyr 9 - 15 | Amgueddfa Forwrol Llŷn
Ymunwch â thim archeoleg Prifysgol Bangor yn yr Amgueddfa Forwrol i ddysgu mwy am Meillionydd, lloc cylchfyr ddwbl, ger Rhiw ym Mhen Llŷn. Bydd arddangosfa fechan yn yr amgueddfa yn arddangos creiriau o'r gwaith cloddio rhwng 2010 a 2017.

Taith gerdded Garn Boduan
Rhagfyr 11fed | 11:00 - 14:00
Ar y daith gerdded hon byddwn yn ymweld â bryngaer gynhanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn y Rhufeiniaid. Daeth archaeolegwyr o hyd i tua 170 o dai crwn ac mae olion rhai ohonyn nhw’n dal i’w gweld heddiw, yn ogystal â’r rhagfuriau sydd o amgylch y safle.