top of page
Screenshot 2021-01-27 at 17.03.52.png

Teithiau Llŷn

Archebwch eich lle ar y bws fflecsi

Mae gwasanaeth bws fflecsi O Ddrws i Ddrws newydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022 yn lle’r gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn.

Mae fflecsi Llŷn yn gweithredu dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy hyblyg o fynd o gwmpas trwy eich codi a’ch gollwng yn yr ardal ddiffiniedig, gan eich galluogi i gyrraedd traethau, meysydd gwersylla, mannau twristaidd a gwneud siwrneiau lleol eraill

Mae fflecsi wedi’i gynllunio i ddarparu mwy o symudedd mewn ardaloedd gwledig a helpu pobl i wneud teithiau lleol mewn amgylchedd diogel a hyblyg.

Coastal Bus .png
bottom of page