top of page
  • Dr Einir Young

Aduniad o’r diwedd!

Roedd prynhawn dydd Mercher 16eg Chwefror yn ddiwrnod mawr i fi – cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gyda Phartneriaid Ecoamgueddfa ers dechrau 2020. Oriel Plas Glyn y Weddw oedd y gyrchfan ac roedd yn hyfryd bod 10 ohonom yn y stafell a thri arall yn ymuno yn rhithiol. Dyna ryfeddol sut mae’r pandemic wedi hwyluso cyfarthrebu cymysg.


Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog

Cyn y cyfarfod cefais gyfle i edrych ar yr arddangosfa agoriadol 2022 sydd yn y Plâs ar hyn o bryd tan 20fed o Fawrth. Gallwch weld yr arddangosfa heb orfod adael y tŷ!


Roedd gwaith Siân Parri o dan y tetil ‘Gwreiddiau’ yn canolbwyntio ar Gymreictod a gwerth yr iaith sy’n hynod amserol gan fod 60 mlynedd wedi mynd ers darlith fawr Saunders Lewis yn Chwefror 1962. Mae fy mam yn cofio gwrando ar y ddarlith ar y radio ar y pryd.


Arddangosfa Gwreiddiau gan Sian Parri, a Dawnsio'r Polca gan Catrin Williams


Mae gwaith datblygu’r safle yn mynd yn ei flaen ac mae edrych ymlaen mawr at yr agoriad yn yr haf. Yn y cyfamser mae’r caffi ar lawr cyntaf yr Oriel yn boblogaidd iawn ac yn gweini bwyd blasus tu hwnt.


Cawsom gyfle i ddal fyny gyda holl weithgareddau pawb – na’i ddim manylu yma dim ond eich gwahodd i grwydro drwy’n gwefan. Cofiwch edrych ar y calendar digwyddiadau a da chi ymunwch â ni ar ein taith Dydd Gŵyl Ddewi i ddysgu mwy am archaeoleg mynydd Rhiw. Ac os na fedrwch ddod gallwch fynd am dro yn rhithiol, wrth eich pwys o’r gadair freichiau.




bottom of page