top of page
11934934_1009347085782680_69604593984664

Plas Heli

Mae Plas Heli yn gwmni di-elw sydd wedi ei sefydlu i redeg yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli. Mae’r Hwb ym Mhlas Heli yn gartref i’r Grwp Awyr Agored, sy’n ymbarel i nifer o glybiau awyr agored Llŷn a Dwyfor gan eu cefnogi i annog a galluogi trigolion lleol i fanteisio a mwynhau adnoddau naturiol yr ardal.

Mae’r Hwb yn le i glybiau gadw a chyfle i rannu offer gyda’i gilydd, clybiau megis Clwb Syrffio Llŷn, Clwb Rhwyfo Pwllheli, Clwb Antur Dwyfor, CHIPAC (Cymdeithas Hwylio Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch), Clwb Hwylio Pwllheli a Chadlanciau’r Môr Pwllheli a Phen Llŷn.

plasheli1.jpg
Icon-cafe].png

Caffi

Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png

Maes Parcio

Icon-Free-entry.png

Mynediad

am ddim

Gydag ystafelloedd cyfarfod, bwyty, bar a neuadd arddangos fawr mae adeilad Plas Heli yn ganolfan groesawgar i drigolion Pen Llŷn, Gwynedd ac ymwelwyr eraill. Mae'r pontwn newydd ar gyfer ymwelwyr a digwyddiadau yn fan i groesawu teithwyr sy’n cyrraedd o’r môr yn ogystal â bod yn ffordd i geufadwyr a rhwyfwyr ddefnyddio’r harbwr mewnol yn rhwydd gyda’r lithfra sydd yn rhan o’r pontwn. Cefnogir y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Mae nifer o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar un safle ym Mhwllheli sydd â golygfeydd ysblennydd o fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri ac arfordir Llŷn. Mi fydd 2019 yn fwrlwm o bencampwriaethau hwylio gydag ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn profi croeso Cymreig Llŷn.

Oriau agor

Bwytu ar agor, rhaid archebu lle o flaen llaw. Manylion isod.

 

Cyswllt

01758 613 343

Gwefan

www.plasheli.org

FB Icon.png
Twitter Icon.png
Insta Icon.png
bottom of page