Llwybr Arfordir Llŷn gyda Aled Hughes
Dilynwch Aled wrth iddo grwydro Llwybr Arfordir Llŷn a Llwybr y Morwyr
Drost y misoedd diwethaf, mae Aled Hughes, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, wedi cerdded 110 milltir/ 180km ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn o Drefor i Borthmadog, a Llwybr y Morwyr o Abersoch i Nefyn.
Cofnododd Aled y daith arbennig ar hyd lwybrau hydolus Llŷn mewn cyfres o flogs byrion - mae yno 15 i gyd. Ynddynt mae'n rhannu straeon difyr, ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal. Er ei fod bellach yn byw yn Ynys Môn, mae ei angerdd am yr ardal hon o Gymru yn heintus a rydym yn siwr y cewch eich ysbrydoli i roi eich esgidiau cerdded amdanoch a dilyn yn ôl ei draed cyn bo hir.
Gwyliwch daith Aled
Mae'r daith wedi ei rhannu i 15 flog tua 9 munud o hyd. Maent i gyd yn Gymraeg gyda is-deitlau Saesneg. Cynhyrchwyd y flogs mewn partneriaeth rhwng Aled Hughes, Llwybr Arfordir Cymru a'r Ecoamgueddfa.