Pwllheli
07.07.2024
BioBlitz Pwllheli
Mae Bioblitz yn ras yn erbyn amser i gofnodi'r amrywiaeth o fywyd gwyllt a geir mewn lleoliad penodol. Ymunwch â ni yn Maes Parcio Lon Cob Bach, Pwllheli dydd Sul y 7fed o Orffennaf i'n helpu i gofnodi cymaint o fywyd gwyllt â sy'n bosib.
​
Mae amserlen llawn gweithgareddau wedi'u cynllunio gydag amrywiaeth o arbenigwyr bywyd gwyllt yn sicrhau ein bod wedi archwilio cymaint o'r gwahanol gynefinoedd a geir yn yr ardal â sy'n bosib. O dripiau cychod i chwilio am adar môr, chwilota'r traethlin am wyau siarc, mwynhau corws y wawr, crwydro'r gerddi yn chwilio am gennau, bydd digon o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt drwy gydol y dydd.
​
Mae'r holl weithgareddau am ddim.
Amserlen
BioBlitz
10am - Gwyfynod
Cymdeithas Edward Llwyd fydd yn dadorchuddio gwyfynod cafodd eu dal yn trapiau gosodwyd y noson cynt. Mi fydd y gwyfynod yno drwy'r dydd i chi gael dysgu mwy amdanynt.
​
10:30am - Planhigion
Ymunwch â Jo Porter, Dolydd LlÅ·n ar daith fydd yn edrych ar y gwahanol blanhigion sy'n tyfu o gwmpas Pwllheli. Bydd yn edrych am blanhigion brodorol ac ymledol, ac yn egluro eu defnydd meddygyniaethol, eu gwerth a'r bygythiadau i'r ecosystemau lleol.
​
12pm - Pryfed Cop
Ymunwch â Richard Gallon o asiantaeth Cofnod a'r Gymdeithas Arachnadegol Prydeinig ar daith fydd yn eich cyflwyno i bryfaid cop a'u hymddygiadau diddordol.
​
1:30pm - Bywyd Gwyllt Morol
Ymunwch â Dawn Thomas o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru am daith fydd yn archwilio'r traethlin am wyau siarc, a chreaduriaid eraill sydd yn byw yn y Marina ym Mhwllheli.
​
3pm - Adar
Ymunwch â Jack Slattery o'r RSPB ar daith i edrych a chofnodi adar. Bydd cyfle i ddysgu mwy am adar preswyl a'r rhai sy'n mudo.
​