top of page
Logo Bioblitz_BioBlitz Logo_White.png

Aberdaron ac Anelog
13.07.2024 - 15.07.2024

20220702Llanbedrog110.jpg
Penwythnos Natur
Aberdaron ac Anelog

Ymunwch â ni am benwythnos o natur yn Aberdaron ac Anelog. Dysgwch am rai o'r planhigion a'r anifeiliaid ar deithiau tywys, sgyrsiau a sesiynau caiac gydag arbenigwyr o wahanol sefydliadau gan gynnwys Dolydd LlÅ·n, RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a PONT.

 

Chwiliwch am frain coesgoch ar hyd y llwybr arfordirol, wyau siarcod yn y draethlin neu degeirianau yn y dolydd arfordirol, dysgwch fwy am y bywyd gwyllt a'r cynefinoedd sydd gennym ym ‘mhen draw’r byd’!

Amserlen
Penwythnos Natur
Bumblebee.png
HELFA WYAU SIARCOD
Dydd Sadwrn | 13.07.24 | 10am - 12:30pm
Lleoliad: Porth y Swnt
​

Dewch i chwilota am wyau siarc, a thrysorau eraill o'r môr gyda Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Pawb i gyfarfod o flaen Porth y Swnt.

​

TAITH GERDDED
Dydd Sadwrn | 13.07.24 | 1pm - 4pm
Lleoliad: Porth y Swnt

 

Taith gerdded dan arweiniad RSPB ar hyd Llwybr yr Arfordir. Byddwn yn chwilio am frain coesgoch ac adar eraill yr ardal.

​

SESIYNNAU CAIACIO
Dydd Sul | 14.07.24 | 10am - 4pm
Lleoliad: Traeth Aberdaron

​

Sesiynnau caiacio yn edrych am fywyd gwyllt morol. Mae'n rhaid archebu lle o flaen llaw drwy gysylltu â Porth y Swnt.

​

DOLYDD LLŶN
Dydd Sul | 14.07.24 | 1pm
Lleoliad: Porth y Swnt

​

Sgwrs gan Jo Porter, Dolydd LlÅ·n am blanhigion a blodau gwyllt. Bydd taith fer i'r fynwent Sant Hywyn, Aberdaron wedi'r sgwrs.

​

NATUR LLŶN
Dydd Sul | 14.07.24 | 6:30pm
Lleoliad: Plas Carmel
​

Sgwrs am natur yr ardal gyda'r ecolegydd, Twm Elias. Bydd rhaid archebu eich lle o flaen llaw drwy gysylltu gyda Plas Carmel

​

TAITH GERDDED
Dydd Llun | 15.07.24 | 11am
Lleoliad: Porth y Swnt
​
Taith gerdded ar hyd y Llwybr Arfordir yn edrych ar flodau gwyllt. Dewch i ddysgu am eu henwau, eu defnydd meddyginiaethol, a'u pwysigrwydd ecolegol. Bydd cyfle hefyd i weld gwaith cadwriaeth ar dir fferm gyda Jan Sherry o PONT.​
Bioblitz.jpg
NTI James Dobson_edited.jpg

Cwestiwn? Cysylltwch.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiwn neu ymholiad cyffredinol am Benwythnos Natur Aberdaron ac Anelog,  cysylltwch â aelod o'r tîm sydd yn barod i helpu.

LIVE webiste icons_Walking Trail-09.png
bottom of page