top of page
Slide-5-1080x650.jpg

Amgueddfa Forwrol LlÅ·n

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yn Eglwys Santes Fair. Mae sylfeini Hen Eglwys Santes Fair yn dyddio o’r 6ed Ganrif, er fod yr adeilad presennol wedi’i ailadeiladu’n gyfan gwbl rhwng 1825-1827. Mae’r hen eglwys yn cartrefu casgliad unigryw yr Amgueddfa o arteffactau morwrol perthnasol ynghyd â gwybodaeth am longau sydd wedi’u hadeiladu yn lleol, y morwyr a’r capteiniaid. Yn y fynwent sy’n amgylchynu’r eglwys, mae beddi llawer o forwyr a chapteiniaid Nefyn a’r ardal leol. Mae cofnod o arysgrifeniadau cerrig beddi wedi’i dogfennu gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd.

​

Sefydlwyd yr Amgueddfa yn 1977 gan grŵp o wirfoddolwyr oedd yn dymuno arddangos eitemau o ddiddordeb hanesyddol yn lleol. Bu’n rhaid cau yn 2000 yn sgil pryderon iechyd a diogelwch.

​

Header-Photo.jpg
Icon-cafe].png

Caffi

Icon-toilets.png

Toiledau

Icon-parking.png

Maes Parcio

Icon-Free-entry.png

Mynediad

am ddim

Yn 2007, daeth aelodau o’r gymuned at ei gilydd a ffurfio pwyllgor newydd i ailagor yr amgueddfa er budd ymwelwyr a thrigolion yr ardal. Sicrhawyd pecyn cyflawn o grantiau i wneud y gwaith yn cynnwys grant gan Gronfa Loteri’r Dreftadaeth, Llywodraeth Cymru, Cronfa Tir a Môr, AHNE LlÅ·n, Ymddiriedolaeth Drefol Nefyn, Cyngor Gwynedd a Chyfenter.

​​

Yn yr amgueddfa ceir arddangosfa barhaol, llwyfan ar gyfer perfformiadau ar raddfa fach, cornel ymchwil, caffi a siop. Bydd mynediad am ddim er mwyn hybu pobl i ymweld yn aml. Trefnir rhaglen o weithgareddau i gynnal diddordeb gan gynnwys sgyrsiau amrywiol, gweithgareddau i blant a phobl ifanc, arddangosfeydd achlysurol a chyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith.

Oriau agor

Dydd Mercher i Dydd Sul

10:30 - 4pm

 

Cyswllt

01758 721 313

afllmm@yahoo.com

​

Gwefan

www.llyn-maritime-museum.co.uk

​

FB Icon.png
Twitter Icon.png
bottom of page