top of page
  • Ben Porter

Brân Goesgoch

Un o’r rhywogaethau mwyaf carismatig sydd wedi ymgartrefu yn Llŷn yw’r Frân Goesgoch (Red-billed Chough), aelod o deulu’r frân sy’n hawdd iawn i’w hadnabod gan fod ganddynt big a choesau coch. Yn aml iawn bydd eu cri uchel ‘cheeeaaw!’ yn cyhoeddi eu bod yn yr ardal.


Choughs in flight

Llŷn yw un o’r llefydd gorau i weld y frân goesgoch yng nghwledydd Mhrydain: gyda’r baeau arfordirol ac agennau creigiog yn cynnig cynefinoedd nythu pwysig, ac mae’r glaswelltir arfordirol yn cael ei reoli mewn ffordd arbennig er mwyn darparu cynefinoedd bwydo sydd yn llawn infertebratau fel pryfyn teiliwr a larfa chwilod yn y pridd. Yn yr Hydref mae parau magu yn dod yn fwy cymdeithasol ac yn ymuno a’r heidiau o adar sydd yn aros yn Llŷn dros y gaeaf, er mwyn osgoi eithafion tywydd y gaeaf yn Eryri. Mae’r heidiau yma yn cynnwys parau eraill, ac adar ifanc sydd heb baru a chartrefu mewn safle nythu penodol.



Lle medra i eu gweld nhw?


Mae’n bosibl gweld y Frân Goesgoch bron ymhobman ar hyd arfordir Llŷn, ond Nant Gwrtheyrn, Uwchmynydd, Mynydd Rhiw a Thrwyn Cilan yw rhai o’r llefydd gorau. Mae Mynydd Mawr, a’r tir agored uwchben Ffynnon Fair yn le da i weld (a chlywed) yr adar arbennig yma yn enwedig yn ystod stormydd yr Hydref: Mae’r Fran Goesgoch yn hedfan yn acrobatig, ac yn chwarae yn y gwyntoedd cryf sydd yn hyrddio’n ddidrugaredd yn erbyn y tir, ac mae’n olygfa wirioneddol werth chweil os oes haid o tua 15 ohonynt yn hedfan drwy’r awyr gan alw ar ei gilydd.



Cofiwch gadw eich pellter oddi wrth y Fran Goesgoch a pheidio aflonyddu arnyn nhw – mae’n hollbwysig eu bod yn cael llonydd i fwydo er mwyn iddynt fedru paratoi ar gyfer y gaeaf.

bottom of page