Ar Fedi’r 3ydd cafwyd seremoni i agor adeilad ac arddangosfa Hen Feddygfa Llithfaen sydd wedi hail-godi Nant Gwrtheyrn, un o safleoedd #Ecoamgueddfa Llŷn.
Lle bach, dwy stafell yw’r hen syrjeri ac yn debyg iawn i’r adeilad gwreiddiol – ystafell aros syml a ‘stafell lle roedd y doctor yn gweld ei gleifion. Yno mae’r ddesg a’r gadair a’r gwely a chreiriau meddygol eraill o’r cyfnod yn arwain ymwelwyr ar hyd llwybrau’r cof ; mae’n siwr fod gan lawer dros rhyw oedran atgofion am feddygfeydd tebyg yn eu hardal nhw.
Er mai yn Nant Gwrtheryn y saif yr adeilad bellach, yng nghanol pentref Llithfaen yr arferai’r Feddygfa fod. Dichon fod y Nant yn adnabyddus led led Cymru a’r byd bellach, ond er mwyn cyrraedd yno rhaid mynd drwy bentref Llithfaen, sydd yn le diddorol dros ben gyda phobl flaengar yn gweithio’n galed dros y gymuned.
Yma mae Tafarn y Fic – tafarn gymunedol gyntaf Cymru, tafarn gymdeithasol Gymreig sy’n darparu adloniant Gymraeg amrywiol ac yn cyflogi pobl leol. Yn ddiddorol roedd un o’r ystafelloedd cefn yn cael ei defnyddio fel meddygfa gan Doctor Jac.
Yma hefyd mae Siop Gymunedol Pen y Groes sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n hwylus iawn ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r siop a’r dafarn yn galon i’r pentref a gallwch gael gafael ar bamffled i’ch tywys drwy’r pentref fel yr oedd yn y gorffennol yn y nail le neu’r llall.
Mae'r map uchod yn dod â Llithfaen y gorffennnol yn fyw. Wrth fynd o gwmpas y pentref gallwch ddefnyddio’ch ffôn i ddarllen y wybodaeth ddifyr dan y côdau QR. Yn rhif 7 ar y map oedd safle’r hen feddygfa.
Yn ogystal â cherdded drwy’r pentref mae na sawl taith gerdded o gwmpas Llithfaen hefyd sy’n cysylltu â llwybrau eraill fel Llwybr Arfordir Cymru, a Taith Pererin Gogledd Cymru.
Menter arall yn y pentref yw Hafod Ceiri – canolfan dreftadaeth sy’n cael ei datblygu yn Capel Isa (rhif 12 ar y map). Mae gweithgareddau cyson ynglwm â’r fenter, a rhyw ddydd bydd yn gyrchfan gwych dros ben.
Un engrhaifft yw Llithfaen, ond mae na lawer o drysorau ym Mhen Llŷn – beth am fynd i Nefyn i weld yr Amgueddfa Forwrol a cherdded o gwmpas y dref hynafol yna ac ymweld â’r mentrau diddorol sydd yno hefyd fel Tafarn yr Heliwr, tafarn gymunedol arall.
Mae mwy o fanylion am holl safleoedd #Ecoamgueddfa ar y wefan
Comentários