top of page
  • Ecoamgueddfa

Hwyl hefo hanes: cipolwg o ddigwyddiadau Gŵyl Archaeolegol Llŷn, Rhagfyr 2023 

 

Cynhaliodd Ecoamgueddfa Llŷn Ŵyl Archaeolegol yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn cyn Nadolig. Croesawyd 185 o ymwelwyr i’r Amgueddfa yn ystod yr wythnos.

 

Bu’r criw o Brifysgol Bangor yn cydweithio gyda thîm ymgysylltu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd er mwyn creu arddangosfa pop-up o greiriau Oes yr Haearn sydd wedi cael eu darganfod ym mryngaerau Oes yr Haearn a Romano-Brydeinig Meillionydd a Dinas Dinlle.

 

Roedd yn gyfle perffaith i ddefnyddio’r creiriau fel sbardun i drafod bywyd a chymdeithas ym Mhen Llŷn yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar. Cafwyd diwrnod crefftau i’r teulu cyfan lle cafodd yr ymwelwyr (ifanc a hŷn!) ddysgu am dlysau personol y cyfnod cynhanesydddol ac yna cyfle i greu mwclis, addurniadau gwallt, modrwyau a breichledau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol, darnau o bren a gwydr.

 

Cafodd tair ysgol gynradd eu gwahodd i’r arddangosfa a daeth dros 60 o blant i’r Amgueddfa i ddysgu mwy am sut roedd defnyddiau a blawd yn cael eu cynhyrchu a hefyd dysgu am rai o chwaraeon y cyfnod. Roedd ‘na gyfle i ddysgu sgiliau fel tynnu lluniau archaeoleogol o gyllyll fflint a dysgu adnabod beth oedd pwrpas y gwrthrychau cerrig sydd wedi cael eu darganfod.

 

Sbardunodd y daith gerdded ddwy-ieithog i fyny Garn Boduan sgyrsiau difyr a chafodd rhai o’r themau yma eu trafod ymhellach mewn darlith gyda’r nos gan Dr Kate Waddington a Rhys Mwyn. Roedd yn braf gweld yr Amgueddfa Forwrol dan ei sang a hynny ar noson oer yng nghanol gaeaf.

 

Dyma’r bedwaredd ŵyl archaeolegol i’r Ecoamgueddfa ei chynnal ac mae’r pumed ar y gweill. Yn Oriel Plas Glyn y Weddw fydd honno, rhywbryd yn ystod Hydref 2024.

 

Am fwy o fanylion am yr ŵyl, yr Ecoamgueddfa a’r adnoddau sydd ynghlwm â hi ac am ddigwyddiadau sydd i ddod cofiwch gadw llygaid ar wefan yr Ecoamgueddfa www.ecoamgueddfa.org

 

Cyllid. Ariannir gwaith yr Ecoamgueddfa ar hyn o bryd gan Llywodraeth y DU drwy raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd.




Diwrnod Crefft Teuluol




Diwrnod Crefft Teuluol




Diwrnod Crefft Teuluol




Diwrnod Crefft Teuluol




Taith gerdded Garn Boduan yng nghwmni Rhys Mwyn a Kate Waddington



Taith Gerdded Garn Boduan yng nghwmni Rhys Mwyn a Kate Waddington




Taith gerdded Garn Boduan yng nghwmni Rhys Mwyn a Kate Waddington




Darlith gyda'r nos yng nghwmni Rhys Mwyn a Kate Waddington




Ymweliad ysgol gynradd




Ymweliad ysgol gynradd




Ymweliad ysgol gynradd: creu defnydd cynhanesyddol




Ymweliad ysgol gynradd: Oes yr Haearn




Ymweliad ysgol gynradd:




Ymweliad ysgol gynradd: Darlunio gwrthrychau archeolegol




Ymweliad ysgol gynradd: Darlunio gwrthrychau archeolegol




Ymweliad ysgol gynradd: gwneud blawd




Ymweliad ysgol gynradd: creu addurn Oes yr Haearn




Ymweliad ysgol gynradd: Gemau Oes yr Haearn

bottom of page