• Gwenan Griffith

Llongddrylliad Y Stuart, Ebrill 6ed 1901 Porth Tŷ Mawr (Porth Wisgi)

Ar y dydd hwn, Ebrill 6ed 1901, union 120 o flynyddoedd yn ôl, drylliwyd y llong hwylio haearn, Y Stuart ar greigiau Porth Tŷ Mawr, ger Porth Colmon ar arfordir gogleddol Pen Llŷn.


Cychwynnodd y Stuart a’i chriw o 19 o forwyr ifanc o borthladd Lerpwl ar fore dydd Gwener y Groglith. Pwrpas y fordaith oedd cludo nwyddau; llestri, cotwm, pianos, canhwyllau a llond hold o wisgi i Wellington yn Seland Newydd.


Yn ôl y sôn, doedd y tywydd ddim yn rhy ddrwg, dim ond glaw mân, ychydig o niwl a gwynt gorllewinol. Fe dowyd Y Stuart i Gaergybi yna’i gollwng yn rhydd i hwylio i gyfeiriad Ynys Enlli. Aeth yn ei blaen ar gyflymdra aruthrol, yn gyntaf i gyfeiriad Iwerddon ac yna’n troi am arfordir gogleddol Llŷn. Fe ddrylliwyd ym Mhorth Tŷ Mawr yn ystod oriau cynnar Sul y Pasg. Llwyddodd pob aelod o’r criw ddod oddi arni’n saff.


Map o fordaith y Stuart. Llun gan Rhiw.com

Roedd adroddiadau ar y pryd yn awgrymu mai diffyg profiad y morwyr ifanc achosodd iddi ddryllio, ond mai rhai eraill yn credu ei bod wedi taro yn erbyn gweddillion y Sorrento, llong a ddrylliwyd ar yr union safle 31 o flynyddoedd ynghynt yn 1870.


Mae’n debyg y bu cryn ysbeilio ym Mhorth Tŷ Mawr dros y dyddiau wedi’r dryllio, gyda thrigolion lleol yn heidio yno i ‘achub’ y cargo gwerthfawr a oedd bellach wedi ei wasgaru ar hyd y lan. Anfonwyd swyddog tollau o Gaernarfon, Mr Mason Cumberland a’i griw i’r safle i geisio adfer y nwyddau, ond erbyn iddo gyrraedd roeddent wedi hen fynd. Claddwyd rhai o’r nwyddau gwerthfawr mewn tyllau cwningod tra bod dynion y Tollau yn chwilio’r ardal.


Mae sôn am athro ysgol Sul a’i ddosbarth cyfan yn dod yno i gynorthwyo i gasglu poteli wisgi a llestri. Golygfa gyffredin iawn oedd gweld dynion a merched wedi meddwi ar hyd y traeth, roedd rhai hyd yn oed yn agor poteli drwy eu torri ar graig ac yn yfed o’r poteli miniog.


Dyma ddywedodd J.O Roberts, Tŷ Mawr, Penllech mewn ysgrif am y Stuart a ysgrifennodd yn 1925.


Dyfyniad J.O Robert, Tŷ Mawr o lyfr 'Ar hyd ben 'rallt' gan Elfed Gruffydd

Bu yna gryn bryder gan bobl grefyddol yr ardal am rai blynyddoedd wedyn am yr effaith yr oedd y ddiod yn cael ar bobl yr ardal. Mae yna lawer o straeon difyr am hogiau yn mynd adref wedi meddwi a merched yn cuddio'r poteli fyny eu peisiau!


Dyma bennill o gerdd John Owen Brychdir, Rhoshirwaun am effaith drwg y wisgi ar drigolion yr ardal.


Fe erys yr hanes fel cwmwl i hofran

Yn awyr atgofion trigolion Pen Lleyn,

I lawer ‘roedd pleser yn llanw y cyfan

A mantais dwyllodrus’n cyd-drigo’n gytûn.

Ond yno gonestrwydd a gollodd ei goron

A sobrwyd anghofiwyd yn llwyr gan y llu

A pharch roed i huno yn nhir ebargofiant

Ac a rei fedd wyla rhinweddau mewn du.


Y Stuart yn torri’n ddarnau ar y traeth. Edrychwch yn agos, mae’n bosib gweld yr ysbeilwyr ar y traeth!

Mae rhai o’r llestri oddi ar y Stuart ar ddreselydd yr ardal hyd heddiw, a hyd yn oed ambell botel wisgi heb ei hagor! Gellir gweld rhai o’r eitemau hyn yn Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn, mae’n werth mynd yno i’w gweld pan fydd yr amgueddfa yn ail agor.



Potel wisgi, a jwg oddi ar y Stuart - lluniau gan Rhiw.com


Mae gweddillion y Stuart i’w gweld ym Mhorth Tŷ Mawr, neu Borth Wisgi fel mae’n cael ei alw’n lleol hyd heddiw. Ar drai, mae’n bosib gweld darnau o diwbiau metel ar y creigiau sydd bellach yn goch o rwd. Ar drai mawr mae sgerbwd y Stuart i’w weld yn glir.


Beth am fynd yno am dro? Mae posib ymweld yno drwy ddilyn y llwybr arfordir am ryw filltir o Borth Colmon, Llangwnnadl. O bosib, gyda lwc y dowch o hyd i botel o wisgi!


Map o draethau ardal Tudweiliog a Llangwnnadl